Interactive House expands into Wales
Click here to read in Welsh

Planning an extension or a loft conversion in Wales? Planning Portal’s easy-to-use Interactive House is a visual online tool that helps you explore common home improvement projects and find out whether you’re likely to need planning permission and building regulations approval.
Building on the existing experience already used by homeowners in England, we’ve now introduced a dedicated version for Wales based on Welsh legislation, helping you research your plans for projects where you live. The tool is available in both English and Welsh.
Explore your home improvement plans
When you’re considering changes to a property, knowing what permission or approval you might need is an important early step.
Interactive House lets you browse the interior and exterior of a typical home and select features relevant to your project to find information on planning permission, permitted development rights and building regulations.
For homeowners, it provides a starting point for researching ideas. For professionals, it offers a practical reference when discussing proposals with clients. Seeing information visually in the context of the house makes it easier to match the home improvement idea you have in mind to the right guidance.
Answers to common questions
Alongside the visual tool, FAQs answer common planning questions, providing a straightforward way to look up a topic or clarify any points as your plans develop.
Understanding these considerations early can help you identify where you may need guidance before developing your plans further or preparing your planning application.
Planning a home improvement project? Explore Interactive House Wales.

Mae Interactive House yn ehangu i Gymru
Ydych chi’n bwriadu cael estyniad neu addasu’ch croglofft yng Nghymru? Adnodd ar-lein gweledol hawdd ei ddefnyddio yw Interactive House y Planning Portal sy’n eich helpu i archwilio prosiectau gwella cartrefi cyffredin a darganfod a yw’n debygol y bydd angen caniatâd cynllunio a chymeradwyaeth rheoliadau adeiladu arnoch.
Gan adeiladu ar y profiad presennol a ddefnyddir gan berchnogion cartrefi yn Lloegr eisoes, rydym bellach wedi cyflwyno fersiwn bwrpasol i Gymru yn seiliedig ar ddeddfwriaeth Cymru, gan eich helpu i ymchwilio i’ch cynlluniau ar gyfer prosiectau lle rydych chi’n byw. Mae’r adnodd ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Archwiliwch eich cynlluniau gwella cartrefi
Pan fyddwch yn ystyried newidiadau i eiddo, mae gwybod pa ganiatâd neu gymeradwyaeth y gallai fod ei angen arnoch yn gam cynnar pwysig.
Mae Interactive House yn caniatáu i chi bori y tu mewn a’r tu allan i gartref nodweddiadol a dewis nodweddion sy’n berthnasol i’ch prosiect i ddod o hyd i wybodaeth am ganiatâd cynllunio, hawliau datblygiad a ganiateir a rheoliadau adeiladu.
I berchnogion tai, mae’n rhoi man cychwyn i ymchwilio i syniadau. I weithwyr proffesiynol, mae’n cynnig cyfeiriad ymarferol wrth drafod cynigion gyda chleientiaid. Mae gweld gwybodaeth yn weledol yng nghyd-destun y tŷ yn ei gwneud hi’n haws paru’r syniad gwella cartref sydd gennych mewn golwg â’r canllawiau cywir.
Atebion i gwestiynau cyffredin
Ochr yn ochr â’r adnodd gweledol, mae Cwestiynau Cyffredin yn ateb cwestiynau cynllunio cyffredin, gan ddarparu ffordd syml o edrych ar bwnc neu egluro unrhyw bwyntiau wrth i’ch cynlluniau ddatblygu.
Gall deall yr ystyriaethau hyn yn gynnar eich helpu i nodi ble y gall fod angen arweiniad arnoch cyn datblygu eich cynlluniau ymhellach neu baratoi eich cais cynllunio.
Ydych chi’n cynllunio prosiect gwella’r cartref? Archwiliwch Interactive House Wales.