Skip to content

Welsh planning application fees increase on 1st December 2025

by on October 21, 2025

Legislative amendments to increase planning application fees in Wales have now been formally made. The legislation came into force on 20th October 2025, the fee documents have been published, and the increased fee values take effect from 1st December 2025.

What are the new fees? 

We have produced a forthcoming version of our fee schedule to show the new fees and related changes to rules.

Further details on specific changes are provided below.

How Planning Portal is supporting you

We are planning to update our system so that the fee calculator is compliant with the increased values ensuring that users can calculate the updated fees correctly. 

We will have an outage at the close of business on the last working day that the current fees are in place (from 17:00 until 20:30 on 28th November 2025) to apply the changes and ensure that any submissions after that point utilise the new fee values. 

This is in line with the legislation for online submission of applications (see paragraph 6): “Where the electronic communication is received by the recipient outside the recipient’s business hours, it is taken to have been received on the next working day.”

Where possible, for applications that have not been submitted, we will reset any existing fee calculations. This will help ensure that fees are recalculated using the increased values for applications submitted after the change takes effect, ensuring correct and valid amounts are received by the local authority.

Finally, to ensure that applications for discharge of conditions or non-material amendments for householder developments remain exempt from the Planning Portal service charge, the threshold for the service charge applying is being increased to £125 in Wales.

What this means for applicants and their agents 

As per the detail above, applications that are not submitted prior to the change (i.e. the close of business, 1700 on Friday 28th November 2025), will be subject to the increased fees. 

For users of the Planning Portal, this includes any applications that are in draft or that have not had their payment completed (including nominated payments, or where bank transfers or cheques have not yet been processed)

Our submission notification emails have a ‘Submitted date’ field that can be used to evidence when the submission took place.

If you have existing applications for submission in Wales, then their status will dictate the actions required when we update the system.

If an application is in ‘draft’ status

We will reset any draft fee calculations to ensure that applications are submitted with the correct fees, giving them the best chance of being validated.

You will need to recalculate the fee before you can complete the application and start the ‘pay and submit’ process.

If an application is in ‘payment pending’ status

If an application is already complete and has begun the ‘pay and submit’ process, then payment will need to be received and cleared by us before 1700 on Friday 28th November 2025.

Otherwise, the payment process will be cancelled, the fee calculation reset, and the application returned to ‘draft’ status. You will then need to recalculate the fee and begin the ‘pay and submit’ process again.

If you or your nominated party are paying by bank transfer or cheque, please adhere to the following deadlines:

  • Bank transfer – Please ensure the transfer has been initiated no later than Monday 24th November 2025.
  • Cheque – Please ensure cheques reach us by Wednesday 19th November 2025 (i.e. allowing additional time for delivery)

The Planning Portal cannot be held responsible for any failure to meet the payment deadlines. Annex A of our payment service terms and conditions state the time periods for clearance of funds.

If an application is in ‘submitted’ or ‘received’ status

If they have not done so already, the local planning authority will review the application once it is in their system and then confirm if any additional fee is due as part of their validation checks.

What this means for local authorities 

Depending how each local authority retrieves applications and processes fees from Planning Portal, there will be different periods between the time of submission and the time the applications and payments are shown in their systems.

Our submission notification emails have a ‘Submitted date’ field that can be used to evidence when the submission took place.

Therefore: 

  • If the application was submitted prior to the change (before close of business, 1700 on 28th November 2025), you will see these applications arrive with the fees that were correct at the time of submission. These should be accepted as valid.
  • You should expect applications submitted after the change takes place to arrive with the new fees.

If you feel the fee for any application is incorrect, you can contact the applicant/agent (and us as required) to request an additional payment as per existing validation practises. 

Frequently asked questions

Please see these FAQs for further details on specific queries about fee changes:

Further details of the fee changes

Full details of the changes are available from Welsh Government.

The main points affecting how fees are calculated on Planning Portal are that: 

  • All fees in Wales are increasing based on inflation since the last fee update in 2020
  • Additionally, based on previous research and consultation, many fees are being placed on a ‘full cost recovery’ pathway, meaning additional increases now and in the future until the fees match the cost to local authorities of determining them
  • Applications for work to existing dwellings, including Householder applications, are being split so that work to the dwelling will incur a higher fee (£585) than work in the surrounding land or on the boundaries (£283).
  • The thresholds for the fee bands for residential developments are being halved (outline applications from a site area of 2.5 to 1.2 hectares; full applications from 50 units to 25 units)
  • This means that fees for outline applications will now vary according to development type, with non-residential and mixed developments retaining the existing 2.5 hectare threshold

Separately, the amendment and fee document also introduces annual rises in application fees linked to inflation and the full cost recovery pathway every April from 2027 onwards.


Cynnydd yn y ffioedd ceisiadau cynllunio yng Nghymru ar 1 Rhagfyr 2025

Mae diwygiadau deddfwriaethol i gynyddu ffioedd ceisiadau cynllunio yng Nghymru bellach wedi’u gwneud yn ffurfiol. Daeth y ddeddfwriaeth i rym ar 20 Hydref 2025, mae dogfennau’r ffioedd wedi cael eu cyhoeddi, a bydd gwerth y ffioedd yn cynyddu o 1 Rhagfyr 2025 ymlaen.

Beth yw’r ffioedd newydd?

Rydym wedi llunio fersiwn bellach o’n rhestr ffioedd (Seasneg) er mwyn dangos y ffioedd newydd a’r newidiadau cysylltiedig i’r rheolau.

Gweler manylion pellach am y newidiadau penodol isod.

Sut mae’r Porth Cynllunio yn eich cefnogi chi

Rydym yn bwriadu diweddaru ein system er mwyn sicrhau bod y gyfrifiannell ffioedd yn cydymffurfio â’r gwerthoedd uwch fel y gall defnyddwyr gyfrifo’r ffioedd diweddaraf yn gywir.

Ni fydd y Porth Cynllunio ar gael o ddiwedd y diwrnod gwaith olaf lle mae’r ffioedd presennol yn berthnasol (o 17:00 i 20:30 ar 28 Tachwedd 2025) er mwyn rhoi’r newidiadau ar waith a sicrhau bod unrhyw gyflwyniadau ar ôl y pwynt hwnnw yn defnyddio gwerth y ffioedd newydd.

Mae hyn yn unol â’r ddeddfwriaeth ar gyfer cyflwyno ceisiadau ar-lein (gweler paragraff 6):“Os yw’r derbynnydd yn cael y cyfathrebiad electronig y tu allan i oriau busnes y derbynnydd, ystyrir ei fod wedi cael y cyfathrebiad ar y diwrnod gwaith dilynol.”

Lle y bo’n bosibl, ar gyfer ceisiadau nad ydynt wedi cael eu cyflwyno, byddwn yn ailosod unrhyw gyfrifiadau ffioedd presennol. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod ffioedd yn cael eu hailgyfrifo drwy ddefnyddio’r gwerthoedd uwch ar gyfer ceisiadau a gyflwynir ar ôl i’r newid ddod i rym, gan sicrhau bod yr awdurdod lleol yn derbyn y symiau cywir a dilys.

Yn olaf, er mwyn sicrhau y caiff ceisiadau ar gyfer cyflawni amodau neu ddiwygiadau ansylweddol i ddatblygiadau deiliad y tŷ eu heithrio rhag tâl gwasanaeth y Porth Cynllunio, caiff trothwy’r tâl gwasanaeth am wneud cais ei gynyddu i £125 yng Nghymru.

Beth mae hyn yn ei olygu i geiswyr a’u hasiantiaid

Yn debyg i’r manylion uchod, bydd y ffioedd uwch yn berthnasol ar gyfer y ceisiadau na chânt eu cyflwyno cyn y newid (h.y. cyn diwedd y diwrnod gwaith, sef 1700 dydd Gwener 28 Tachwedd 2025).

Ar gyfer defnyddwyr y Porth Cynllunio, mae hyn yn cynnwys unrhyw geisiadau drafft neu geisiadau lle na chwblhawyd y taliad ar eu cyfer (gan gynnwys taliadau enwebedig, neu lle nad yw trosglwyddiadau banc neu sieciau wedi’u prosesu eto).

Mae ein negeseuon e-byst hysbysiadau cyflwyno yn cynnwys maes ‘Dyddiad cyflwyno’ y gellir ei ddefnyddio i ddangos pryd y cyflwynwyd y cais.

Os byddwch am gyflwyno ceisiadau presennol yng Nghymru, bydd eu statws yn pennu’r camau y bydd angen eu cymryd wrth i ni ddiweddaru’r system.

Os bydd cais yn nodi statws ‘drafft’

Byddwn yn ailosod unrhyw gyfrifiadau ffioedd drafft er mwyn sicrhau y caiff ceisiadau eu cyflwyno â’r ffioedd cywir, gan roi’r cyfle gorau iddynt gael eu dilysu.

Bydd angen i chi ailgyfrifo’r ffi cyn y gallwch gwblhau’r cais a dechrau’r broses ‘talu a chyflwyno’.

Os bydd cais yn nodi statws ‘aros am daliad’

Os bydd cais eisoes wedi’i gwblhau ac wedi datblygu i’r broses ‘talu a chyflwyno’, bydd angen i ni dderbyn a chlirio’r taliad cyn 1700 ddydd Gwener 28 Tachwedd 2025.

Fel arall, bydd y broses dalu yn cael ei chanslo, bydd y ffi a gyfrifwyd yn cael ei hailosod, a byddwn yn dychwelyd y cais i statws ‘drafft’. Yna, bydd angen i chi ailgyfrifo’r ffi a dechrau’r broses ‘talu a chyflwyno’ eto.

Os byddwch chi neu eich parti enwebedig yn talu drwy drosglwyddiad banc neu siec, cydymffurfiwch â’r terfynau amser canlynol:

  • Trosglwyddiad banc – Sicrhewch eich bod wedi dechrau’r trosglwyddiad cyn dydd Llun 24 Tachwedd 2025 fan bellaf.
  • Siec – Sicrhewch y bydd sieciau yn ein cyrraedd erbyn dydd Mercher 19 Tachwedd 2025 (h.y. gan adael amser ychwanegol iddynt gyrraedd)

Ni ellir dwyn y Porth Cynllunio i gyfrif am unrhyw achos o fethu â bodloni’r terfynau amser i wneud taliadau. Mae Atodiad A o delerau ac amodau ein gwasanaeth taliadau yn nodi’r cyfnodau amser er mwyn i’r arian glirio.

Os bydd cais yn nodi statws ‘cyflwynwyd’ neu ‘wedi’i dderbyn’

Os nad yw eisoes wedi gwneud, bydd yr awdurdod lleol yn adolygu’r cais unwaith y bydd ar ei system ac yna yn cadarnhau os bydd angen i chi dalu unrhyw ffi ychwanegol fel rhan o’i wiriadau dilysu.

Beth y mae hyn yn ei olygu i awdurdodau lleol

Yn dibynnu ar sut mae pob awdurdod lleol yn casglu ceisiadau ac yn prosesu ffioedd o’r Porth Cynllunio, bydd cyfnodau gwahanol rhwng yr amser cyflwyno a’r amser a gymerir i’r ceisiadau a’r taliadau ddangos ar ei system.

Mae ein negeseuon e-byst hysbysiadau cyflwyno yn cynnwys maes ‘Dyddiad cyflwyno’ y gellir ei ddefnyddio i ddangos pryd y cyflwynwyd y cais.

Felly: 

  • Os cyflwynwyd y cais cyn y newid (cyn diwedd y diwrnod gwaith, sef 1700 ar 28 Tachwedd 2025), byddwch yn gweld y ceisiadau hyn yn cyrraedd gyda’r ffioedd a oedd yn gywir ar yr adeg y cawsant eu cyflwyno. Dylid derbyn y rhain fel ceisiadau dilys.
  • Dylech ddisgwyl i’r ceisiadau a gyflwynwyd ar ôl i’r newid gael ei wneud gyrraedd gyda’r ffioedd newydd.

Os byddwch o’r farn fod y ffi ar gyfer unrhyw gais yn anghywir, gallwch gysylltu â’r ceisydd/asiant (a ni yn ôl yr angen) i ofyn am daliad ychwanegol yn unol â’r arferion dilysu presennol.

Cwestiynau cyffredin

Gweler y cwestiynau cyffredin hyn am fanylion pellach am ymholiadau penodol am y newidiadau i’r ffioedd:

Manylion pellach am y newidiadau i’r ffioedd

Mae manylion llawn am y newidiadau ar gael gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r prif bwyntiau sy’n effeithio ar y ffordd y caiff ffioedd eu cyfrifo ar y Porth Cynllunio yn cynnwys y canlynol:

  • Mae’r holl ffioedd yng Nghymru yn cynyddu yn seiliedig ar chwyddiant ers y diweddariad diwethaf ar ffioedd yn 2020
  • At hynny, ar sail ymchwil ac ymgynghoriad blaenorol, mae llawer o ffioedd yn cael eu gosod ar lwybr ‘adennill costau llawn’, sy’n golygu cynnydd ychwanegol nawr ac yn y dyfodol nes y bydd y ffioedd yn cyd-fynd â chostau’r awdurdodau lleol i wneud penderfyniadau yn eu cylch
  • Mae ceisiadau i gwblhau gwaith ar anheddau presennol, gan gynnwys ceisiadau gan ddeiliad tŷ, yn cael eu rhannu fel bod ffi uwch (£585) ar waith a wneir i’r annedd na’r gwaith a wneir ar y tir o amgylch neu ar y ffiniau (£283).
  • Mae trothwyon y bandiau ffioedd ar gyfer datblygiadau preswyl yn cael eu haneru (ceisiadau amlinellol o ardal safle o 2.5 i 1.2 hectar; ceisiadau llawn o 50 o unedau i 25 o unedau)
  • Mae hyn yn golygu y bydd y ffioedd ar gyfer ceisiadau amlinellol bellach yn amrywio yn unol â’r math o ddatblygiad, gyda’r trothwy ar gyfer datblygiadau amhreswyl a chymysg yn aros ar y 2.5 hectar presennol

Ar wahân i hynny, mae’r ddogfen diwygiadau a ffioedd hefyd yn cyflwyno cynnydd blynyddol yn y ffioedd gwneud cais sy’n gysylltiedig â chwyddiant a’r llwybr adennill costau llawn bob mis Ebrill o 2027 ymlaen.

Comments are closed.